Cyfarwyddwr / Director - Craig Roberts
Cerdd Philip Larkin 'This Be The Verse' daeth i’r meddwl wrth wylio Eternal Beauty, gan y Cymro Craig Roberts. Mae’n ffilm sy’n delio â themâu megis salwch meddwl a thrawma teuluol, i gyd o bersbectif Jane, sy’n cael ei chwarae’n feistrolgar gan Sally Hawkins.
“Right, how are you feeling? I feel fine. No. Good…”
Drwy lygaid Lynchaidd mae Roberts yn ein gosod ni yng nghanol byd swreal a ffraeth, sydd wedi’i chleisio a’i thorri gan y gorffennol. Nid yw’n tanysgrifio i ddulliau stigmatig neu ystrydebus i bortreadu salwch meddwl; yn hytrach, mae’n dangos byd lliwgar, doniol a chreulon, sy’n bersonol iawn i feddylfryd Jane. Wedi’i osod yn y’r 1980au, rydym yn cwrdd â Jane am y tro cyntaf, yn cerdded o dan olau stryd sy’n fflachio yn ysbeidiol, ar ystâd gyngor concrit. Clywn sain ffôn yn canu, dyma Jane yn stopio wrth ymyl blwch ffôn; mae’r digwyddiad yma yn tynnu ni yn ôl mewn amser i weld Jane yn ei hugeiniau (Morfydd Clark) yn paratoi’n hapus am ei phriodas, ac yna’n dorcalonnus wrth iddi gael ei gadael wrth yr allor.
Mae gwleidyddiaeth y teulu yn wenwyn sy’n rhedeg trwy’r naratif ac yn llifo drwy wythiennau pob aelod o’r teulu; mae’n bla yn ogystal â glud, sy’n glynu’r dair chwaer mewn poen parhaol dros y gorffennol. Mewn golygfa lle mae Jane yn siarad am ei meddyginiaeth newydd “I’m sleeping a lot” i’w Mam gormesol (Penelope Wilton) a’i thâd di-lais (Robert Pugh), mae ymateb y fam“Wel, you’d better wake up” yn engraifft gynnil o ddeinameg lletchwith, rhwystredig sydd yn eistedd yn drwm ar y tri.
Unwaith yn rhagor clywn sain arswydus y ffôn coch yn canu, mae’n tynnu ni ymhellach i mewn i feddwl Jane, ac yn cymylu’r linell rhwng y real a’r swreal. Mae hon yn ffîn y mae Roberts yn harchwilio yn ei ffilm cyntaf Just Jim, lle mae dynameg teulu yn cymryd rôl ganolog, wrth i gymydog dirgel symud i mewn drws nesaf.
Mae yna lawer o newidiadau o fewn y ffrâm sy’n dangos meddylfryd newidiol Jane, wrth i’w chymeriad ddatblygu; mae sinematograffi, dyluniad gwisgoedd a set yn cyfleu hyn yn bennaf trwy ddefnyddio lliwiau megis coch a glas. Mae’r lliwiau yma yn cyflwyno’u hunain ar wahanol bethau a chymeriadau, ac yn arwyddocâd o’i chyflwr. Gwneir hyn mewn ffordd cynnil a phwerus, ac yn pwysleisio’r cysylltiad rhwng lliw â emosiwn, sy’n berthnasol iawn i’r mwyafrif ohonom.
Gyda pherfformiadau gwych, ysgrifennu hyderus a thechnegau ffilmio heriol, mae Roberts yn canfod cydbwysedd da rhwng comedi a thrasiedi. Mae tebygrwydd i’r ffilm Silver Linings Playbook yn ei agwedd tuag at gomedi, trasiedi a salwch meddwl; lle mae’r naratif yn dod o bersbectif y person sydd yn byw yr afiechyd. Mewn cyfnod lle rydyn ni’n cael ein hannog i siarad yn agored am ein teimladau a’n hiechyd meddwl, mae ffilmiau fel Eternal Beauty yn dangos yr ochor ddynol i afiechydon megis iselder a sgitsoffrenia.
Mae Eternal Beauty yn gwyrdroi’r syniad o hapusrwydd ac yn herio ei ystyr, gan ofyn y cwesitwn, a ydych chi yn hapus?
“There’s no such thing as happiness, only moments of not being depressed”
Philip Larkin’s poem This Be The Verse came to mind while watching Eternal Beauty, by Welsh director Craig Roberts. The film follows themes of mental illness and family trauma, centred around the broken and chaotic life of Jane, masterfully played by Sally Hawkins.
“Right, how are you feeling? I feel fine. No. Good…”
Roberts places us right at the heart of a surreal, witty, bruised and broken world, that feels quite Lynchian in parts. He does not subscribe to stigmatic, stereotypical methods of portraying mental illness; rather he depicts a colourful, funny and cruel world, that is very much personal to Jane’s mindset.
Set in the 1980’s, we first meet Jane walking beneath white clouds and a flickering streetlight, on a concrete paved council estate. She stops next to a ringing telephone box, thus triggering a flashback to Jane in her twenties (Morfydd Clark), happily on the way to get married, to find herself tragically being stood up at the altar, pleading for answers over the phone.
Family politics is a poison running through the narrative and flows through the veins of each family member; it’s a blight as well as a glue, binding the three sisters in perpetual agony over the past. At one point Jane speaks of her new medication “I’m sleeping a lot” to her voiceless father (Robert Pugh) who stands behind her oppressive mother (Penelope Wilton) “Well you’d better wake up”. Roberts’s use of dialogue subtly indicates their awkward, restrained dynamic, highlighting the mother’s willingness to quickly brush the matter aside; this evidently sits heavy on the three.
Once again the haunting tones of the ringing red phone intervenes - as is does throughout -pulling us further into Jane’s mind, blurring the line between the real and the surreal. This is a boundary Roberts explores in his directorial debut Just Jim, where family dynamics take a central role, as a mysterious neighbour moves in next door.
There are many intricacies to Jane’s altering gaze as her character develops; cinematography, costume and set design convey this primarily through the use of colour. Blues and reds have different connotations and present themselves on certain objects and characters, indicating change or altered state. This is subtly done and demonstrates the powerful connection colour can have on us, and how it’s strongly associated with emotion.
Roberts finds a good balance between comedy and tragedy through confident filmmaking, and fantastic all-round performances. There are similarities to the film Silver Linings Playbook in its approach to comedy, tragedy and mental illness; where the narrative is told from the perspective of the person living with it.
In a time where we are encouraged to speak openly about our feelings and our mental health, films such as Eternal Beauty show the human side to misunderstood illnesses such as depression and schizophrenia.
Eternal Beauty subverts the idea of happiness, challenging its meaning, asks the question “Are you happy”?
Comments